Click Connect Discover

A A A
Cymraeg English
Cysylltu â ni: 0845 474 8282
 

Sut gallwch chi helpu pobl i fynd ar-lein

Ydych chi'n helpu ffrind neu aelod o'r teulu i fynd ar-lein, neu fyddech chi'n hoffi helpu pobl i fynd ar-lein yn eich cymuned?

Lady using laptop with headset

 

Yn 2010, ystyriwyd bod 34% o oedolion yng Nghymru ‘wedi'u heithrio'n ddigidol’*. Mae hyn yn golygu nad oedden nhw'n mynd ar-lein nac yn defnyddio'r rhyngrwyd o gwbl.

 

Mewn rhai achosion, mae'n wir mai mater o ddewis yw hyn, a bod pobl ddim yn gweld y manteision neu'r angen, neu'n teimlo braidd yn bryderus am breifatrwydd a diogelwch.

 

Gall Cymunedau 2.0 roi cymorth di-dâl** i'ch cymuned er mwyn helpu pobl i fynd ar-lein. Gallwn ddarparu hyfforddwyr ar gyfer sesiynau blasu ac ar gyfer sesiynau hyfforddi mwy ffurfiol.

 

Rydyn ni'n awyddus i chwalu'r rhwystrau hynny, a dangos i bobl bod mynd ar-lein yn gallu bod yn ddefnyddiol tu hwnt mewn nifer o wahanol ffyrdd. Gallwn ddangos i bobl sut mae bod yn ddiogel ar-lein, yn ogystal â sut mae rhoi cyfrifiaduron a dyfeisiau eraill ar waith a gofalu amdanyn nhw.

 

Mae'r wefan hon hefyd yn cynnwys cyngor ar gyfer y rheini a fyddai'n hoffi helpu eu rhieni, eu ffrindiau neu aelodau eraill o'u teulu i fynd ar-lein, ond sydd ddim yn siŵr iawn lle i gychwyn.

 

Ble nesaf?


Sut mae bod yn Hyrwyddwr Digidol

Pam mae'n bwysig gallu mynd ar-lein

Helpu pobl yn eich cymuned i fynd ar-lein

Helpu ffrind neu aelod o'r teulu i gysylltu â'r we

Beth yw cynhwysiant digidol a Cymunedau 2.0?


Ydych chi'n chwilio am help llaw ym maes TGCh a'r rhyngrwyd ar gyfer eich menter neu'ch mudiad?

Hoffech chi drefnu sesiwn hyfforddi ar gyfer eich grŵp, eich mudiad neu'ch menter?

 

Cymunedau 2.0 yn brosiect cynhwysiant digidol gan Lywodraeth Cymru a'r Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Cysylltu â ni:

Ffôn: 0845 474 8282
E-bost: communities2.0@walescooperative.org
Twitter: @Communites2_0

 

Mwy o wybodaeth


*Data o grynodeb Dadansoddiad Cynhwysiant Digidol Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru

 

** Cynllun cynhwysiant digidol gan Lywodraeth Cymru yw Cymunedau 2.0. Mae'r cynllun ar waith yng Ngogledd a Gorllewin Cymru, Cymoedd De Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe. Yn anffodus, ar hyn o bryd, allwn ni ddim cynnig help i bobl, mudiadau na mentrau nad ydynt yn rhan o Ardal Cydgyfeirio Cymru.